Mae timau achub yn yr Alban wedi darganfod dau gorff ar lan y môr wrth chwilio am ŵr a gwraig y cafwyd hyd i’w car ar draeth mewn tywydd garw.
Roedd Ford Kuga gwag Susan a James Kenneavy wedi cael ei weld ar draeth Drummore ger Stranraer yn ne-orllewin yr Alban fore Iau.
Roedd glaw trwm wed arwain at lifogydd ar ffordd arfordirol Drummore y diwrnod cynt.
Dywed Heddlu’r Alban i gorff dynes gael ei ddarganfod ar lan y dŵr yn Port William, Newton Stewart, tua 8.15 y bore yma, ac i gorff dyn ddod i’r amlwg gerllaw tua hanner ar yn ddiweddarach.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu:
“Er nad ydyn nhw wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol, credwn mai cyrff y ddau a oedd ar goll ydyn nhw. Mae eu teulu agosaf wedi cael gwybod ac fe fydd adroddiad llawn yn cael ei anfon at y Procurator Fiscal.”
Dros y ddeuddydd diwethaf, fe fu badau achub lleol, Tîm Achub Mynydd Galloway a hofrennydd Gwylwyr y Glannau yn chwilio am y ddau ar fôr, ar dir ac yn yr awyr.