Mae Prif Weinidog Prydain yn dweud fod gan aelodau seneddol y grym i ddewis a fydd gan wledydd Prydain ddyfodol mwy llewyrchus neu ragor o raniadau ac ansicrwydd.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Undeb Ewropeaidd gymeradwyo ei chynlluniau ar gyfer ymadawiad Prydain.

Mae Theresa May yn mynnu bod ei chynlluniau’n parchu canlyniad refferendwm 2016, ond fe fydd angen cytundeb aelodau seneddol mewn pleidlais cyn y Nadolig er mwyn rhoi’r cynlluniau ar waith.

“Bydd yn un o’r pleidleisiau mwyaf arwyddocaol a gafwyd yn y Senedd ers nifer o flynyddoedd,” meddai.

“Mae pa un a fyddwn ni’n symud ymlaen gyda’n gilydd i ddyfodol mwy llewyrchus neu’n agor y drws i ragor o raniadau ac ansicrwydd yn dibynnu arni.”

‘Y cytundeb gorau posib’

Ychwanega Theresa May ei bod hi wedi sicrhau’r “cytundeb gorau posib”, gan ddweud ei bod hi’n “optimistaidd” ar gyfer y dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Ond bydd hi’n wynebu gwrthwynebiad mwy nag 80 o aelodau seneddol sy’n bwriadu pleidleisio yn erbyn y cynlluniau.

Gallai hynny olygu y bydd rhaid iddi ymddiswyddo yn y pen draw pe na bai’r cynlluniau’n mynd rhagddynt.

‘Cytundeb gwael’

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn ymhlith y rhai sy’n dweud bod y cytundeb yn un “gwael”.

“Mae’n ganlyniad methiant siomedig y trafodaethau sy’n ein gadael ni gyda’r byd gwaethaf posib,” meddai.

Mae penaethiaid Ewrop, gan gynnwys Jean-Claude Juncker ar ran Comisiwn Ewrop, yn mynnu na fydd modd dychwelyd i’r trafodaethau pe na bai San Steffan yn derbyn y cytundeb.