Mae John Bercow, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, wedi ceryddu criw o Aelodau Seneddol am chwarae pêl-droed yn siambr San Steffan.

Ni ddylid defnyddio’r “siambr hanesyddol” ar gyfer cicabowt, meddai’r Llefarydd, gan ychwanegu ei fod bellach wedi derbyn llythyr ymddiheuro gan dair o’r pum gwleidydd dan sylw.

Fe gafodd Aelod Seneddol yr SNP, Hannah Bardell, ei ffilmio yn ymarfer ei sgiliau pêl-droed yn y siambr ac yn cael tynnu ei llun gydag Aelodau Seneddol eraill. Roedden nhw hefydwedi bod yn eistedd yng nghadair y Llefarydd ac wrth y brif ddarllenfa i dynnu hunluniau.

Fe ddigwyddodd hyn i gyd ddiwedd dydd ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 20).

Roedden nhw wedi bod yn paratoi at chwarae tros Glwb Pêl-droed Merched Senedd Prydain, ond fe fu’n rhaid candlo’r gêm gyntaf oherwydd ei bod yn cyd-daro â phleidlais.

Cyn-weinidog Chwaraeon y Ceidwadwyr, Tracey Crouch; ynghyd ag Alison McGovern, Louise Haigh a Stephanie Peacock o’r blaid Lafur oedd yr Aelodau Seneddol eraill a gafodd eu gweld yn eu dillad pêl-droed yn y Senedd – gyda chaniatâd y Llefarydd.

Ond nid oedd y caniatâd hwnnw yn cynnwys cicio pêl na chamddefnyddio’r siambr.