Mae’r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol yn rhybuddio bod angen i lywodraeth San Steffan wneud penderfyniadau “heddiw” er mwyn sicrhau ynni glân ac i leihau ar allyriadau carbon.

Yn ôl eu hastudiaeth ddiweddaraf – Rhagolwg Ynni’r Byd – mae mwy na 70% o fuddsoddiadau ar ynni yn ddibynnol ar y llywodraeth, ac mae hi i fyny i wleidyddion greu’r polisïau a’r cymhelliad cywir er mwyn darparu ynni glân.

O dan y polisïau presennol, mae allyriadau carbon ar gynnydd – er bod y galw am ynni yn mynd i dyfu dros 25% erbyn 2040.

“Angen ymdrech wleidyddol ac economaidd fyd-eang”

Dywedodd Dr Farih Birol, cyfarwyddwr gweithredol yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol eu bod wedi adolygu’r “holl seilwaith ynni presennol a’i isadeiledd ar draws y byd.”

Er mwyn gwella’r sefyllfa, mae “angen ymdrech wleidyddol ac economaidd fyd-eang,” mae’n honni.

“Pe bai’r byd yn ddifrifol am gwrdd â’i dargedau newid hinsawdd, yna o heddiw ymlaen, mae angen dewisiadau systematig ar gyfer buddsoddi mewn technoleg ynni cynaliadwy.”