Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi galw ar y Llywodraeth i “newid cyfeiriad” eu polisïau economaidd.

Ychwanegodd nad oedd y toriadau llym er mwyn gostwng y ddyled “wedi gweithio”.

Mae yna bryder na fydd Llywodraeth San Steffan yn llwyddo i dorri’r diffyg ariannol os nad oes rhagor o dwf yn yr economi.

Mae twf wedi arafu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae pryder y bydd economi Prydain yn ôl mewn dirwasgiad erbyn y pedwerydd chwarter.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur fod angen torri’r gyfradd Treth ar Werth dros dro er mwyn rhoi hwb i’r economi.

Ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, dywedodd Ed Miliband wrth raglen Andrew Marr ei fod yn cydnabod bod torri’r diffyg ariannol yn dasg anodd.

Ond mynnodd y byddai yn llawer haws torri’r ddyled os oedd yr economi yn tyfu, a phobol mewn gwaith yn talu trethi yn hytrach nag ar y dôl yn hawlio adnoddau’r llywodraeth.

“Y broblem â strategaeth y Llywodraeth ydi nad ydyn nhw wedi deall hynny,” meddai.

“Flwyddyn yn ôl roedd ddadl fawr ynglŷn ag a fyddai strategaeth y Llywodraeth yn gweithio.

“Erbyn hyn rydyn ni’n gwybod nad ydi’r strategaeth wedi gweithio. Mae diweithdra yn codi.

“Os nad ydych chi’n gallu tyfu’r economi dydych chi ddim yn gallu torri’r ddyled.”