Ann McKechin
Mae Llafur yn bwriadu newid rheolau’r blaid er mwyn atgyfnerthu rôl eu harweinydd yn yr Alban.
Fe fydd Ysgrifennydd Albanaidd yr wrthblaid, Ann McKechin, yn dweud wrth gynhadledd y blaid yn Lerpwl heddiw y byddwn nhw’n creu swydd newydd.
Yn hytrach nag ‘Arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban’, fe fydd yr arweinydd nesaf yn cael y teitl ‘Arweinydd Plaid Lafur yr Alban’.
Dyw hi ddim yn amlwg eto a fydd yr un newid yn digwydd yng Nghymru, lle mae’r Blaid Lafur mewn grym.
Fe fydd angen i aelodau’r blaid ar draws Prydain bleidleisio er mwyn addasu eu llyfr rheolau a datganoli swydd yr arweinydd i’r Alban.
“Dydw i ddim yn synnu fod presenoldeb cryf gan ein haelodau o’r Alban yn y gynhadledd yma,” meddai Ann McKechin.
“Rydyn ni’n byw mewn cyfnod anodd ac mae angen i bleidiau gwleidyddol ystyried ymatebion difrifol i’r argyfwng economaidd a diweithdra uchel.
“Yn yr Alban rydyn ni’n wynebu dwy broblem – llywodraeth Geidwadol sy’n torri’n rhy gyflym, a pholisi economaidd gwallus y llywodraeth SNP.
“Mae angen i ni newid ein plaid ein hunain, ac mae hynny’n cynnwys atgyfnerthu rôl arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban.”