Mae Prif Weinidog yr Alban wedi addo y bydd yn “troi pob carreg” er mwyn ceisio diogelu dyfodol ffatri teiars Michelin, sydd dan fygythiad o gau.

“Mae’r newydd yr wythnos hon yn bownd o fod wedi torri calonnau’r 845 o weithwyr yn Michelin yn Dundee,” meddai Nicola Sturgeon yn y Senedd yng Nghaeredin. “Dw i’n meddwl am bob un ohonyn nhw ar yr adeg ofnadwy yma.

“Fe fyddwn ni’n gwneud popeth posib er mwyn sicrhau dyfodol cynaladwy i’r ffatri hon. Mae’n flaenoriaeth ganddon ni i chwilio am opsiynau er mwyn ei gwneud hi’n bosib i ddal at i gynhyrchu ar y safle.

“Fe fyddwn ni’n gweithio gyda chwmni Michelin, gyda chyngor Dundee, a gyda phartneriaid eraill er mwyn sicrhau dyfodol cadarnhaol i’r gweithwyr ac i’r gymuned ehangach.”

Mae Nicola Sturgeon wedi galw eto ar Lywodraeth San Steffan i roi £50m ar ben £200m Llywodraeth yr Alban, fel cyfraniad i ddêl Tay Cities er mwyn rhoi hwb i’r economi.