Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid cefnogi Deddf Iaith Wyddeleg i Ogledd Iwerddon.
Mae’r Cynulliad yn cynrychioli 45 o ieithoedd lleiafrifol ar draws 23 o wledydd, ac fe gawson nhw eu croesawu i Ddulyn gan Conradh na Gaeilge, sy’n ymgyrchu tros hawliau i’r Wyddeleg.
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad roedd Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans.
Dywed y cynnig a gafodd ei basio fod “hawliau ieithyddol yn hawliau dynol ac mae gan y gymuned Wyddeleg yr hawl i gydraddoldeb” – y geiriau a gafodd eu llefaru yn yr iaith honno gan Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts yn San Steffan yn ddiweddar.
Yn unol â Chytundeb St Andrews 2006, mae Llywodraeth Prydain wedi ymrwymo i gyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg sy’n seiliedig ar brofiadau Cymru a Gweriniaeth Iwerddon.
Galwodd y Rhwydwaith am gyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg pe na bai grym yn Stormont wedi’i ddatrys o fewn chwe mis.
Beirniadu Llywodraeth Prydain
“Mae Conradh na Gaeilge o hyd yn edrych ar bob posibilrwydd yn drylwyr er mwyn sicrhau cyflwyno Cytundeb St Andrews 2006 yn llawn, ac yntau’n addo ‘Deddf Iaith Wyddeleg yn seiliedig ar brofiadau Cymru a Gweriniaeth Iwerddon’,” meddai Llywydd Conradh na Gaeilge, Dr Niall Comer.
“Mae cefnogaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop yn atgyfnerthu ymhellach adroddiadau diweddar gan COMEX a Chyngor Ewrop sydd wedi bod yn feirniadol dros ben o Lywodraeth Prydain o safbwynt y methiant i gyflwyno deddfwriaeth yn ôl addewid blaenorol.
“Byddwn yn parhau i lobïo cyrff lleol a rhyngwladol ar fater hawliau ieithyddol, sydd eisoes yn cael eu mwynhau gan nifer ar draws Ewrop.”