Dydy rheolwr tîm pêl-droed Leicester City, Claude Puel ddim yn un o’r rhai oedd yn yr hofrennydd a blymiodd i’r ddaear y tu allan i Stadiwm King Power neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 27), yn ôl y wasg yn Ffrainc.

Roedd pryderon y gallai’r Ffrancwr fod ymhlith y rhai oedd yn teithio yn hofrennydd perchennog y clwb, Vichai Srivaddhanaprabha pan aeth ar dân ym maes parcio’r stadiwm yn dilyn eu gêm yn erbyn West Ham.

Ond mae’r wasg yn dyfynnu ffrind sy’n dweud ei fod e wedi clywed bod Claude Puel yn fyw ac iach, ac nad oedd yn teithio yn yr hofrennydd.

Mae lle i gredu bod y perchennog yn yr hofrennydd ar y pryd, ond dyw hynny ddim wedi cael ei gadarnhau.

Ymchwiliad

Mae Heddlu Swydd Caerlŷr wedi cadarnhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr awdurdodau damweiniau awyr i’r hyn arweiniodd at y gwrthdrawiad.

Yn ôl yr heddlu, ymatebon nhw, y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tân ac achub lleol i’r digwyddiad toc ar ôl 8.30yh neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 27).

Mae’r heddlu’n parhau i gydweithio â’r awdurdodau awyr a’r clwb pêl-droed.

Mae teyrngedau wedi cael eu gosod y tu allan i’r stadiwm wrth i gefnogwyr aros am ragor o fanylion.