Mae pryderon bod perchennog clwb pêl-droed Leicester City wedi cael ei ladd ar ôl i’w hofrennydd blymio i’r ddaear a mynd ar dân ger Stadiwm King Power y tîm neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 27).

Ychydig iawn o fanylion sydd ar gael ar hyn o bryd, ond mae tystion wedi disgrifio’r modd yr aeth yr hofrennydd allan o reolaeth eiliadau ar ôl gadael y cae, a chyn taro’r ddaear mewn maes parcio ger y stadiwm.

Mae lle i gredu bod Vichai Srivaddhanaprabha yn yr hofrennydd ar y pryd, ond dyw hynny ddim wedi cael ei gadarnhau.

Fe fu’r tîm yn herio West Ham yn gynharach yn y noson, ac roedd hofrennydd y perchennog yn gadael y stadiwm yn ôl yr arfer.

Mae dwsinau o chwaraewyr, cyn-chwaraewyr, sylwebyddion, clybiau ac Aelod Seneddol De Caerlŷr, Jonathan Ashworth wedi bod yn trydar negeseuon o gefnogaeth i’r clwb.

Ymchwiliad

Mae Heddlu Swydd Caerlŷr wedi cadarnhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr awdurdodau damweiniau awyr i’r hyn arweiniodd at y gwrthdrawiad.

Yn ôl yr heddlu, ymatebon nhw, y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tân ac achub lleol i’r digwyddiad toc ar ôl 8.30yh neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 27).

Mae’r heddlu’n parhau i gydweithio â’r awdurdodau awyr a’r clwb pêl-droed.

Mae teyrngedau wedi cael eu gosod y tu allan i’r stadiwm wrth i gefnogwyr aros am ragor o fanylion.