Mae pennaeth y CBI wedi rhybuddio y gallai swyddi gael eu colli a’u symud o wledydd Prydain pe na bai’r Prif Weinidog Theresa May yn sicrhau cytundeb tros Brexit erbyn mis Rhagfyr.

Yn ôl Carolyn Fairbairn, mae’r broses Brexit yn datblygu’n arafach nag y mae ei angen ar fusnesau gwledydd Prydain.

Mewn arolwg o 236 o fusnesau’n ddiweddar, dywedodd 80% ohonyn nhw fod Brexit wedi cael effaith ar eu cynlluniau buddsoddi.

Mae gan y mwyafrif gynlluniau wrth gefn pe baen nhw’n dal i wynebu ansicrwydd erbyn diwedd y flwyddyn, ac mae’r rheiny’n cynnwys colli swyddi a symud gwaith i wledydd tramor.

Dywedodd Carolyn Fairbairn, “Oni bai bod cytundeb i dynnu allan yn ei le erbyn mis Rhagfyr, fe fydd cwmnïau’n bwrw ymlaen gyda’u cynlluniau wrth gefn. Bydd swyddi’n cael eu colli, a chadwyni cyflenwi’n cael eu symud.

“Byddai’r effaith ar economi’r DU yn sylweddol. Byddai safonau byw yn cael eu heffeithio, a llai o arian ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol gan gynnwys ysgolion, ysbytai a thai.

“Mae ansicrwydd yn tynnu buddsoddiadau i ffwrdd o’r DU, gyda Brexit yn cael effaith negyddol ar wyth allan o 10 o fusnesau.”

‘Gweithio’n galed’

Wrth ymateb i’r pryderon, dywedodd llefarydd ar ran Adran Brexit Llywodraeth Prydain, “Rydym yn gweithio’n galed i gyflwyno cytundeb sy’n gweithio i fusnesau ac rydym yn parhau’n hyderus o gael canlyniad positif.

“Pe baen ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, sy’n annhebygol, rydym wedi cyflwyno dros 100 o hysbysiadau technegol i helpu busnesau i gynllunio a pharatoi.

“Rydym wedi ymgysylltu’n helaeth â busnesau a chyrff diwydiannau  bob sector o’r economi drwy’r broses ymadael, a byddwn yn parhau i wneud hynny.”