Mae nifer y llofruddiaethau wedi cynyddu 14% yng Nghymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Daw hyn wrth i ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ddangos bod cyfanswm o 5.6m o droseddau wedi cael eu cofnodi gan yr heddlu ers mis Mehefin y llynedd, sef cynnydd o 9% ers y flwyddyn flaenorol.

Mae’r cyfanswm o lofruddiaethau wedi gweld naid o 630 i 719 ers 2016/17, er nad yw’r ffigwr hwn yn cynnwys y rhai fu farw yn sgil yr ymosodiadau brawychol ym Manceinion a Llundain.

O ran ffigyrau eraill, nifer y lladradau sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y flwyddyn ddiwethaf (22%), tra bo ymosodiadau rhywiol wedi cynyddu 18%.

“Sefydlog”

Mae ystadegwyr yn mynnu nad yw’r naid mewn rhai categorïau yn golygu bod lefel y troseddau yn gyffredinol ar gynnydd.

Mae tystiolaeth wahanol gan Arolwg Troseddau Lloegr a Chymru (CSE) yn dweud bod y rhan fwyaf o’r mathau o droseddau wedi aros yn eu hunfan.

“Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi gweld cwymp yn lefel cyffredinol y troseddau, ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r lefel wedi bod yn fwy sefydlog,” meddai llefarydd ar ran ONS.

“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos dim newid yn y cyfanswm o droseddau, ond maen nhw’n tueddu i amrywio o ran gwahano fathau o droseddau.”