Mae disgwyl i Theresa May annerch arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn Brwsel heddiw (dydd Mercher, Hydref 17), ar adeg dyngedfennol yn y trafodaethau Brexit.

Ond mae’n edrych yn annhebyg y bydd cytundeb yn cael ei ffurfio yn ystod y cyfarfod, wrth i Lywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd barhau i ddadlau tros fater y ffin yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Donald Tusk, Llywydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, wedi dweud na fydd cytundeb hyd nes bod Llywodraeth Prydain yn dod â “chynigion newydd” st y bwrdd.

Bwriad gwreiddiol cyfarfod yr arweinwyr heddiw oedd rhoi sêl bendith i drefniadau’r gynhadledd arbennig a fydd yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd – y gynhadledd sydd i fod trafod y cytundeb Brexit terfynol.

Ond wedi i drafodaethau rhwng Michel Barnier a Dominic Raab ddod i ben heb gytundeb ddydd Sul, mae’r bwriad hwn wedi’i wthio o’r neilltu am y tro.

Ar drothwy’r cyfarfod heddiw, mae Theresa May wedi llwyddo i gael cefnogaeth ei chabinet, ond mae’n debyg ei bod hi’n parhau ar dir peryglus.

Yn y cyfarfod Cabinet ddoe, mynnodd y Prif Weinidog na fyddai’n derbyn unrhyw gytundeb a fydd yn cynnwys ffin agored rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon, na chytundeb a fydd yn clymu’r Deyrnas Unedig wrth drefniadau tollau’r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae’n debyg bod nifer o Geidwadwyr sydd fwyaf o blaid Brexit wedi’u cythruddo ar ôl darllen sylwadau’r Canghellor, Philip Hammond, yn y Daily Mail ynghylch y ffaith y bydd yn rhaid talu hyd at £36bn i’r Undeb Ewropeaidd pe na bai cytundeb cyn Mawrth 29.