Bydd yn rhaid i wledydd gymryd camau “digynsail” i ostwng allyriadau carbon i sero erbyn 2050 a chyfyngu cynhesu byd-eang peryglus, yn ôl adroddiad newydd gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC).

Dywed yr adroddiad – a gafodd ei baratoi ar gyfer y Cenhedloedd Unedig – y bydd effeithiau newid hinsawdd, o sychder i godi lefelau’r môr, yn llai enbyd os ydi’r cynnydd yn y tymheredd yn cael ei gyfyngu i 1.5C yn uwch na’r lefelau cyn-ddiwydiannol o’i gymharu â’r hyn fydd yn digwydd os ydyn nhw’n codi i 2C.

Gellir cyfyngu’r cynhesu i 1.5C, ond byddai angen gwneud newidiadau cyflym a phellgyrhaeddol i gynhyrchu pŵer, diwydiant, cludiant, adeiladau a ffordd o fyw, fel bwyta llai o gig.

Byddai hefyd angen tynnu gormodedd o allyriadau carbon o’r atmosffer, yn ôl adroddiad y Panel.

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Gweinidog Ynni Llywodraeth San Steffan Claire Perry: “Does ‘na ddim esgus nawr ac mae angen gweithredu ar frys.”