Mae yn bosib y gellid bod wedi osgoi llofruddiaeth mam a’i babi ym mis Mehefin 2013, yn ôl ymchwiliad i’r achos.

Fe laddodd Wesley Williams ei gyn-bartner Yvonne Walsh, 25, a’i mab Harrison, ac fe gafodd ddedfrydu i o leiaf 29 mlynedd dan glo yn Llys y Goron Birmingham y flwyddyn honno.

Ond yn gynharach yn y flwyddyn, ym mis Chwefror 2013, roedd Wesley Williams wedi ei garcharu am ymosod ar ddyn, ac roedd asesiad ohono yn dweud ei fod yn peri “risg uchel” i blant.

Roedd Wesley Williams, ar ôl iddo gael ei garcharu yng Nghymru, wedi bygwth lladd plentyn cyn-bartner iddo.

Yn ôl ymchwilwyr i’r achos, wnaeth yr heddlu fethu rhoi gwybod i Adran Blant y cyngor sir pwy oedd cariad newydd Wesley Williams, ac felly collwyd cyfle posib i rybuddio’r fam bod ei mab mewn perygl.