Mae gwybodaeth bersonol aelodau Cabinet Llywodraeth Prydain, gan gynnwys eu rhifau ffôn, wedi cael eu cyhoeddi ar ap cynhadledd y Ceidwadwyr.

Cafodd y wybodaeth ei datgelu ar ôl i fesurau diogelwch yr ap gael eu torri. Ymhlith y rhai a gafodd eu heffeithio roedd Boris Johnson a Michael Gove.

Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod modd cofrestru i’r ap a gweld gwybodaeth bersonol trwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost yn unig. Cwmni o Awstralia sydd wedi creu’r ap.

Mae lle i gredu bod nifer o aelodau’r Cabinet wedi derbyn galwadau ffôn gan y cyhoedd ar ôl i’r wybodaeth gael ei chyhoeddi, ac mae nifer o bobol ar wefan gymdeithasol Twitter yn honni iddyn nhw gael mynediad i gyfrif Boris Johnson a chyhoeddi delweddau pornograffig ar ei broffil.

Cafodd llun proffil Michael Gove ei newid i lun Rupert Murdoch, ei fos pan oedd e’n newyddiadurwr.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ymwybodol o’r digwyddiad ac yn cynnal ymchwiliad, ac mae’r Ceidwadwyr wedi ymddiheuro.

Bydd y gynhadledd yn dechrau yn Birmingham ddydd Sul.

Ymateb Llafur

Mae’r Blaid Lafur wedi achub ar y cyfle i feirniadu’r Ceidwadwyr yn sgil y digwyddiad ac mae un o weinidogion cabinet cysgodol y blaid wedi galw am roi hyfforddiant technegol iddyn nhw.

Dywedodd Jon Trickett, “Sut allwn ni ymddiried yn y Llywodraeth Dorïaidd hon gyda diogelwch ein gwlad pan na allan nhw hyd yn oed adeiladu ap sy’n cadw manylion eu haelodau, eu ASau ac eraill sydd yn mynychu’r gynhadledd yn ddiogel?”