Gordewdra fydd prif achos canser ‘gellid ei osgoi’ ymhlith menywod ymhen chwarter canrif.
Dyna sy’n cael ei awgrymu mewn adroddiad newydd gan yr elusen Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd, ysmygu yw prif achos canser ‘gellid ei osgoi’ ymhlith menywod, ond mae’r adroddiad yn awgrymu y bydd hynna’n newid erbyn 2043.
Yn sgil y canfyddiad yma, mae’r elusen yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am beryglon gordewdra, gan ddadlau ei fod yn peri “bygythiad anferthol” i iechyd y cyhoedd.
Gweithredu
“Dylwn groesawu’r cwymp yn nifer y bobol sy’n ysmygu,” meddai’r Athro, Linda Bauld. “Mae’n dangos bod degawdau o godi ymwybyddiaeth, trethu a deddfu, wedi bod o fudd.
“Ond, rhaid parhau â’r gwaith hwnnw, a rhaid gweithredu er mwyn rhwystro canser sy’n gysylltiedig â phwysau. Rhaid sicrhau nad yw’r dyfaliad yma yn dod yn realiti.”