Mae gwleidyddion Llafur wedi bod ymhlith miloedd o bobl i orymdeithio drwy Lerpwl i bwyso ar eu plaid i gefnogi refferendwm ar Brexit.

Gan chwifio baneri’r Undeb Ewropeaidd a gweiddio ‘bollocks to Brexit’ ac ‘it’s not a done deal’, cerddodd y gorymdeithwyr trwy ganol y ddinas i Pier Head, gerllaw lle mae cynhadledd Llafur wedi cychwyn heddiw.

Rhybuddiodd AS Tottenham, ac ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn Brexit, David Lammy bod Prydain mewn argyfwng ac yn wynebu adfywiad yng ngwleidyddiaeth y dde eithaf.

“All y Blaid Lafur ddim gadael i eraill ddistrywio’n gwlad a sefyll gyda’r dde eithaf,” meddai.

Gwleidydd Llafur arall a anerchodd y dorf oedd y Arglwydd Andrew Adonis, sydd hefyd wedi bod yn pwyso am bolisi mwy cadarn gan ei blaid:

“Yr unig Brexit da yw Brexit marw,” meddai. “Does y fath beth yn bod â Brexit da oherwydd mae Brexit yn golygu difrodi swyddi, difrodi Iwerddon, difrodi’r ifanc … a’n gwerthoedd sosialaidd.”

Yn gynharach yn y dydd roedd Jeremy Corbyn wedi dweud y byddai’n parchu beth bynnag oedd penderfyniad aelodau Llafur yn y gynhadledd ar y pwnc.