Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drywanu dynes ar stryd brysur yng ngogledd Llundain fore heddiw (dydd Sadwrn, Medi 1).
Dydy’r dyn ddim wedi cael ei enwi, ond mae’n cael ei holi yn y ddalfa ar amheuaeth o geisio llofruddio’r ddynes yn Islington.
Mae lle i gredu i’r ddynes gael ei thrywanu yn y frest toc wedi 10.20yb.
Mae traffig wedi cael ei symud o’r ardal wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.