Mae Heddlu West Midlands yn cynnig £5,000 am wybodaeth am ddyn 21 oed sydd wedi’i amau o ladd mam a merch yn Solihull.

Mae Janbaz Tarin wedi’i amau o drywanu i farwolaeth ei gyn-bartner, Raneem Oudeh, 22, a’i mam, Khaola Saleem, 49.

Cafwyd hyd i’r ddwy yng nghartref Khaola Saleem toc wedi 12.30 ar ŵyl banc Awst, ac mae’r heddlu hefyd wedi dod o hyd i’r gyllell a gafodd ei defnyddio. Maen nhw wrthi’n archwilio fan Janbaz Tarin.

Cefndir

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau’r noson pan gafodd y ddwy eu lladd.

Roedden nhw wedi ffonio’r heddlu i gwyno am ddigwyddiad, ac fe lwyddodd yr heddlu i’w cyrraedd o fewn chwe munud yn dilyn nifer o alwadau. Ond doedden nhw ddim wedi gallu dod o hyd iddyn nhw yn y lleoliad cyntaf yr aethon nhw iddo.

Ond doedden nhw ddim wedi cyrraedd mewn da bryd i’w hachub cyn iddyn nhw gael eu lladd.

Mae’r achos wedi’i drosglwyddo i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu, ac mae’r heddlu’n mynnu eu bod nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i atal y digwyddiad.

Janbaz Tarin

Mae’r heddlu’n credu bod Janbaz Tarin yn cuddio yn rhywle yng nghanolbarth Lloegr.

Maen nhw wedi cyhoeddi apêl yn galw arno i fynd at yr heddlu o’i wirfodd, ac i alw ar unrhyw un sy’n ei gynorthwyo i gysylltu â nhw.

Ni ddylai’r cyhoedd fynd ato, meddai’r heddlu, ond yn hytrach, dylen nhw ffonio 999.