Does “dim sail gyfreithiol” gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon i ddiarddel y cyn-arweinydd, Alex Salmond yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol.

Dydy’r blaid ddim wedi derbyn cwyn am ei ymddygiad, meddai, a dydyn nhw ddim wedi cynnal ymchwiliad hyd yn hyn.

Ond dywedodd y byddai’r mater yn cael sylw pe bai’r sefyllfa’n newid.

Mae’r gwrthbleidiau’n galw am ddiarddel Alex Salmond am y tro. Ond mae’n gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le.

Dywedodd Nicola Sturgeon, “Dydy’r ymchwiliad i’r cwynion am Alex Salmond ddim wedi cael ei gynnal gan yr SNP a dydy’r blaid ddim wedi derbyn cwynion.

“Hefyd, am resymau cyfreithiol, all yr ychydig wybodaeth sydd gen i am ymchwiliad Llywodraeth yr Alban ddim cael ei rhannu gyda’r blaid ar hyn o bryd ac mae’n briodol mai’r blaid, ac nid fi fel arweinydd, sydd â’r grym i atal aelodaeth.

“I grynhoi, does gan y blaid ddim sail cyfreithiol ar hyn o bryd i atal aelodaeth Alex Salmond.”

Ychwanegodd nad oes neb “uwchlaw rheolau’r blaid”.

Honiadau

Mae’r honiadau’n ymwneud ag ymddygiad Alex Salmond tuag at ddau aelod o staff yn 2013, pan oedd e’n Brif Weinidog.

Mae’r mater yn nwylo Heddlu’r Alban ar hyn o bryd.

Daeth y blaid yn ymwybodol o’r honiadau ym mis Ionawr, a chafodd Alex Salmond wybod am yr ymchwiliad ym mis Mawrth.