Mae dyn 29 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio aelodau o’r cyhoedd a swyddogion yr heddlu drwy yrru car drwy’r dorf ger y Senedd yn San Steffan.

Fe fydd Salih Khater, o Stryd Highgate, Birmingham yn ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o ddau achos o geisio llofruddio yn dilyn y digwyddiad y tu allan i’r Senedd ddydd Mawrth diwethaf (14 Awst).

Honnir bod Salih Khater, sy’n ddinesydd Prydeinig a gafodd ei eni yn y Sudan, wedi gyrru ei gerbyd at gerddwyr a seiclwyr cyn gwyro’r car yn fwriadol tuag at swyddogion yr heddlu.

Roedd ei gerbyd wedi gwrthdaro a baricêd tu allan i Balas Westminster cyn cael ei arestio.

“Brawychiaeth”

Fe fydd erlynwyr yn trin yr achos fel un o frawychiaeth oherwydd y modd cafodd yr ymosodiad honedig ei gynnal, y bobl a gafodd eu targedu a’r lleoliad adnabyddus, meddai’r Heddlu Metropolitan.

Cafodd tri o bobol eu trin yn yr ysbyty, am anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywyd, ar ôl y digwyddiad.

Mae disgwyl i Salih Khater fynd gerbron Llys Ynadon Westminster ddydd Llun (20 Awst).