Mae bachgen mewn cyflwr ddifrifol wael ac un arall mewn cyflwr difrifol ond sefydlog ar ôl i grŵp o bobol ifanc gael eu trywanu yn Llundain neithiwr.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn stad o dai yn Camberwell yn ne Llundain yn hwyr yn y prynhawn ar ddydd Iau (Awst 17), gyda’r heddlu’n cael eu galw toc cyn 5:25yp.
Maen nhw wedi cadarnhau bod y pedwar person a gafodd eu trywanu rhwng 15 ac 16 oed.
Mae chwe bachgen yr un oedran wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac yn cael eu hamau o achosi anrhefn dreisgar a niwed corfforol difrifol.
Mae lleoliad y digwyddiad nid nepell o’r fan lle cafodd person ifanc arall ei drywanu i farwolaeth ar ddechrau’r mis.
Bu farw’r rapiwr Sidique Kamara, 25 oed – a oedd yn cael ei adnabod fel Incognito – ar Stryd Warham yn Camberwell ar Awst 1.