Fe gafodd heddlu arfog eu galw wedi i ddau fosg yn Birmingham ddod dan ymosodiad.

Fe gawson nhw eu galw i Fosg Masjid Qamarul yn Small Heath tua 10yh nos Fercher (Awst 15) ac yna i Fosg Al-Hijrah mosque yn ardal Hob Moor Road ugain munud yn ddiweddarach.

Mae Heddlu’r West Midlands yn dweud nad yw hi’n glir eto pam fod y ddau adeilad wedi’u targedu. Roedd peli bach metel – ball bearings – wedi’u taflu gan ddefnyddio catapwltau yn ystod cyfnod gweddïo.

Mae plismyn yn dal i batrolio’r ardal ac yn ceisio cysuro addolwyr a phobol leol.

Fe ddaw’r digwyddiadau diweddara’ hyn wedi i Salih Khater, 29, o Birmingham gael ei arestio wedi i gar Ford Fiesta lliw arian fynd ar ei ben i mewn i far diogelwch o flaen Senedd San Steffan, gan daro beicwyr a cherddwyr.