Mae disgwyl i’r chwaraewr rygbi o Loegr, Danny Cipriani, ymddangos gerbron y llys yn dilyn digwyddiad mewn clwb nos ar ynys Jersey.

Mae’r maswr 30 yn wynebu nifer o gyhuddiadau, gyda gwrthod cael ei arestio ac ymosod ar berson ymhlith y rhai penna’.

Roedd wedi cael ei ddwyn i’r ddalfa yn ystod oriau mân bore Mercher (Awst 16), ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Jersey heddiw, yn ôl yr heddlu.

Mae lle i gredu bod y digwyddiad wedi cymryd lle mewn lleoliad sy’n gysylltiedig â gwesty’r Royal Yacht yn Stryd Mulcaster ym mhrifddinas yr ynys, St Helier.

Roedd Danny Cipriani ar yr ynys yn rhan o daith gan Glwb Rygbi Caerloyw.