Mae’r heddlu ym Manceinion wedi lansio ymchwiliad i achos o geisio llofruddio ar ôl  i 12 o bobl, gan gynnwys plentyn 12 oed, gael eu hanafu ar ôl i wn gael ei danio at dorf o bobol mewn parti stryd.

Cafodd heddlu arfog eu galw i Moss Side am 2.30 fore dydd Sul, yn dilyn Carnifal Caribïaidd Manceinion.

Dywedodd Heddlu Manceinion bod naw o bobl, gan gynnwys dau blentyn a oedd yn y parti gyda’u rhieni, wedi’u cludo i’r ysbyty ar ôl cael anafiadau gan wn peled.

O’r 12 o bobol oedd yn yr ysbyty mae saith bellach wedi cael mynd adref.

Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad i achos o geisio llofruddio ond nid yw’n glir ar hyn o bryd beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad.

Ni chafodd unrhyw un eu harestio yn ystod y carnifal a ddaeth i ben am 8yh, oriau cyn yr achos o saethu, meddai’r heddlu.