Mae Idris Elba wedi awgrymu mewn neges ar ei dudalen Twitter mai fe fydd y James Bond nesaf – yr actor cronddu cyntaf erioed i dderbyn y rôl.

Wrth bostio hunlun, dywedodd mewn capsiwn, “Elba yw’r enw, Idris Elba”, gan adleisio dywediad enwog yr ysbïwr o fyd y ffilmiau.

Ymhlith yr enwau eraill sydd wedi’u crybwyll i olynu Daniel Craig mae Tom Hardy, James Norton a Tom Hiddleston.

Mae Daniel Craig eisoes yn paratoi ar gyfer y pumed ffilm ar hugain, a fydd yn cael ei chyfarwyddo gan Danny Boyle a’i chyhoeddi y flwyddyn nesaf.