Nick Clegg - 'dylanwad ar y Llywodraeth'
Mae arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio perswadio’r ffyddloniaid yn eu cynhadledd flynyddol eu bod yn ymladd o fewn y Llywodraeth tros gyfiawnder cymdeithasol.

Mewn rhes o ddatganiadau ac areithiau, maen nhw wedi datgelu agweddau a pholisïau i geisio tawelu’u beirniaid.

Ddoe fe ddywedodd yr arweinydd Nick Clegg fod gweinidogion y Dem Rhydd yn cael mwy na’u siâr o ddylanwad yn y Llywodraeth a bod eu dylanwad yn mynd trwy’r polisïau fel geiriau trwy ddarn o roc.

  • Heddiw, mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi dweud wrth bapur newydd y Daily Telegraph y bydd yn cyflwyno mesurau i’w gwneud hi’n haws i gyfranddalwyr reoli cyflogau penaethiaid cwmnïau.
  • Fe ddaeth cyhoeddiadau eraill gan Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, sydd yn dweud y bydd rhagor o weision sifil yn cael eu cyflogi i fynd ar ôl cyfoethogion sy’n osgoi treth ac y bydd cronfa newydd i helpu busnesau sy’n methu â chael arian i ddatblygu.
  • Yn ddiweddarach heddiw mae disgwyl i’r Gweinidog Addysg, Sarah Teather, gyhoddi manylion y Premiwm Disgyblion sy’n rhoi arian yn Lloegr tuag at addysg y disgyblion lleia’ breintiedig.

Ond, ar ail ddiwrnod y gynhadledd yn Birmingham, mae’r pôl piniwn diweddara’n dangos fod sgôr y blaid yn aros yn isel ar 11%.