Mae deiseb yn etholaeth Gogledd Antrim yng Ngogledd Iwerddon yn galw am ddisodli’r Aelod Seneddol, Ian Paisley.
Mae mab y diweddar Dr Ian Paisley wedi’i wahardd o Dŷ’r Cyffredin am gyfnod o 30 diwrnod, a hynny ar ôl iddo fethu â chofrestru dau wyliau teuluol a dderbyniodd trwy garedigrwydd Llywodraeth Sri Lanka.
Mae Aelod Seneddol y DUP eisoes wedi ymddiheuro am ei “fethiant damweiniol” i gofrestru’r ddau gyfnod o seibiant, gyda’r ddau’n cael eu hamcangyfrif o fod gwerth £50,000.
Y ddeiseb
Dyma’r tro cyntaf i ddeiseb o’r fath gael ei chynnal ers i Ddeddf Galw yn ôl Aelodau Seneddol gael ei phasio yn 2015.
Yn ôl y ddeddf, mae hawl gan etholwyr i orfodi isetholiad os yw eu Haelod Seneddol wedi derbyn naill ai dedfryd carchar, gwaharddiad o Dŷ’r Cyffredin am fwy na 10 diwrnod neu gyhuddiad yn ei erbyn o gamddefnyddio treuliau.
Mae’r ddeiseb ar agor am gyfnod o chwe wythnos, ac os yw hi wedi’i harwyddo gan o leia’ 10% o’r etholwyr erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, yna mae’n rhaid cynnal isetholiad.
Mae Ian Paisley, sy