Fe fydd achos llys cricedwr Lloegr, Ben Stokes yn dechrau heddiw yn Llys y Goron Bryste.

Mae’r chwaraewr amryddawn, 27, sy’n chwarae i Durham, wedi’i gyhuddo o gymryd rhan mewn ffrwgwd ym Mryste ar Fedi 25 y llynedd, ynghyd â dau ddyn arall o Fryste, Ryan Ali, 28, a Ryan Hale, 27 oed.

Honnir bod dyn arall 27 oed wedi cael anaf i’w lygad yn ystod y digwyddiad.

Mae’r tri yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd Ben Stokes ei adael allan o garfan Lloegr ar gyfer Cyfres y Lludw yn Awstralia dros y gaeaf.

Mae e wedi’i adael allan o dîm Lloegr unwaith eto’r wythnos hon ar gyfer yr ail brawf yn erbyn India, am fod disgwyl i’r achos bara tan ddiwedd yr wythnos.