Byddai pob unigolyn yn cyfrannu £800 yn llai at yr economi bob blwyddyn petasai Brexit yn digwydd heb gytundeb gydag Ewrop.

Dyna yw rhybudd y Sefydliad Cenedlaethol tros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (Niesr) – melin drafod hynaf gwledydd Prydain, ym maes yr economi.

Mae’r corff yn nodi y byddai pob dinesydd yn y Deyrnas Unedig yn cynhyrchu £500 yn llai petasai Downing Street yn gwireddu eu cynlluniau Brexit hwythau.

Ond byddai’r ffigwr yn cynyddu cryn dipyn os byddai gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb daro dêl o gwbl.

“Dyw’r rhagolygon yma ddim yn ystyried pob ffactor,” meddai Niesr. “Felly mae’n ddigon posib y cawn golledion sydd dwywaith y lefel yma.”

Twf

Mae Niesr yn rhagweld y bydd yr economi yn tyfu gan 1.4% y flwyddyn hon, a’n tyfu gan 1.7% dros y flwyddyn olynol.

Gyda’r rhagolygon yma, mae’r corff wedi cymryd yn ganiataol y cawn ni Brexit meddal lle fydd marchnad Ewrop yn hollol agored i wledydd Prydain.