Mae’r Goruchaf Lys wedi dyfarnu na fydd yn rhaid cael caniatâd cyfreithiol i atal triniaeth i gleifion sydd mewn cyflwr diymateb parhaol (PVS).

Mae hyn yn golygu y bydd yn haws i roi’r gorau i roi bwyd a hylif er mwyn caniatáu i gleifion farw os oes cytundeb mai dyna yw’r peth gorau i’r claf.

Pan mae teuluoedd a meddygon yn cytuno, fe fydd staff meddygol yn gallu rhoi’r gorau i atal triniaeth heb orfod gwneud cais i’r Llys Gwarchod.

Mae’r Llys Gwarchod wedi bod yn dyfarnu ar achosion o’r fath ers 25 mlynedd ond mae’r broses yn gallu cymryd misoedd neu flynyddoedd mewn rhai achosion, yn ogystal â’r costau cyfreithiol i awdurdodau iechyd i wneud apêl.

Daeth yr achos i’r Goruchaf Lys ar ôl i ddyn yn ei 50au gael trawiad ar y galon y llynedd, gan arwain at niwed difrifol i’w ymennydd. Mae e bellach wedi marw ond fe benderfynwyd parhau a’r achos fel bod y llys yn gallu gwneud dyfarniad.

Roedd y dyn, sy’n cael ei adnabod fel Mr Y, mewn cyflwr diymateb ar ôl y trawiad ac nid oedd unrhyw siawns y byddai’n gwella.

Roedd ei deulu a meddygon wedi cytuno mai’r peth gorau fyddai ei ganiatáu i farw drwy roi’r gorau i roi bwyd a hylif iddo.

Roedd Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd (GIG) wedi gofyn i’r Uchel Lys i gyhoeddi na fyddai’n rhaid gwneud cais i’r Llys Gwarchod am benderfyniad pan oedd y meddygon a’r teulu i gyd yn credu mai dyma fyddai orau i’r claf.

Fe gytunodd y barnwr ond roedd y cyfreithiwr swyddogol wedi apelio ar ran Mr Y – ac mae’r apêl bellach wedi cael ei wrthod.

Wrth gyhoeddi’r dyfarniad ddydd Llun, dywedodd  y barnwr Y Foneddiges Black, bod cytundeb rhwng meddygon a theulu’r claf yn ddigon i sicrhau “hyder y cyhoedd”.

Ond mae hi wedi annog teuluoedd i wneud cais i’r llys pan nad oes cytundeb rhwng teuluoedd a meddygon.