Mae cyn-gynghorydd UKIP, Stephen Searle, wedi’i garcharu am oes am lofruddio’i wraig Anne.

Cafwyd e’n euog ddydd Mawrth o’i llofruddio fisoedd yn unig ar ôl iddi ddarganfod ei fod e’n cael perthynas â phartner eu mab.

Fe fydd yn treulio o leiaf 14 o flynyddoedd dan glo.

Roedd e wedi dadlau ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun yn dilyn ffrae.

Fe gymerodd hi lai na thair awr a hanner i’r rheithgor yn Llys y Goron Ipswich ei gael yn euog o lofruddiaeth, ac fe ddywedodd y barnwr fod ei berthynas odinebus “ryw ffordd neu’r llall” wedi cyfrannu at farwolaeth ei wraig.

Clywodd y llys fod Stephen Searle wedi tagu ei wraig gan ddefnyddio dull a ddysgodd yn y lluoedd arfog.

Cefndir

Clywodd y llys fod priodas Stephen Searle a’i wraig dan straen ar ôl iddi ddarganfod fis Mehefin y llynedd ei fod e wedi cael perthynas ag Anastasia Pomiateeva, partner eu mab Gary a mab i o leiaf un o’u hwyrion.

Ffoniodd Stephen Searle 999 ar Ragfyr 30, gan ddweud, “Dw i wedi lladd fy ngwraig.”

Aeth yr heddlu i’w cartref funudau’n ddiweddarach, a chael hyd i gorff Anne Searle.

Roedd y cwpwl yn briod am 45 o flynyddoedd, ac roedd ganddyn nhw dri mab.