Mae cyn-gynghorydd UKIP wedi’i gael yn euog o lofruddio’i wraig ar ôl iddo fod yn cael perthynas â phartner eu mab.
Fe allai Stephen Searle gael ei garcharu am oes am ladd Anne Searle â chyllell, er ei fod wedi dadlau ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun.
Fe gymerodd hi lai na thair awr a hanner i’r rheithgor yn Llys y Goron Ipswich ei gael yn euog o lofruddiaeth, ac fe ddywedodd y barnwr fod ei berthynas odinebus “ryw ffordd neu’r llall” wedi cyfrannu at farwolaeth ei wraig.
Clywodd y llys fod Stephen Searle wedi tagu ei wraig gan ddefnyddio dull a ddysgodd yn y lluoedd arfog.
Cefndir
Clywodd y llys fod priodas Stephen Searle a’i wraig dan straen ar ôl iddi ddarganfod fis Mehefin y llynedd ei fod e wedi cael perthynas ag Anastasia Pomiateeva, partner eu mab Gary a mab i o leiaf un o’u hwyrion.
Ffoniodd Stephen Searle 999 ar Ragfyr 30, gan ddweud, “Dw i wedi lladd fy ngwraig.”
Aeth yr heddlu i’w cartref funudau’n ddiweddarach, a chael hyd i gorff Anne Searle.
Dywedodd yr erlyniad fod y cwpl wedi ffraeo y noson honno a bod Stephen Searle wedi tagu ei wraig. Cafodd hynny ei gefnogi gan archwiliad post-mortem.
Clywodd y llys y byddai hi wedi bod yn anymwybodol o fewn 15 eiliad, ac y byddai wedi cymryd rhai munudau o wasgedd ar ei gwddf i’w lladd.
Roedd y cwpwl yn briod am 45 o flynyddoedd, ac roedd ganddyn nhw dri mab.
Fe fydd Stephen Searle yn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher.