Mae Theresa May yn wynebu diwrnod heriol arall yn Nhŷ’r Cyffredin, wrth i ddeddfwriaeth Brexit fynd gerbron Aelodau Seneddol.

Heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 17) mi fydd yr aelodau yn pleidleisio tros welliannau sydd wedi’u cynnig gan Dorïaid gwrth-Brexit.

Ac fe ddaw ddiwrnod yn unig wedi diwrnod tymhestlog yn San Steffan, lle cafodd y Prif Weinidog ei chyhuddo o ildio i ddymuniadau’r Brexitwyr caled.

Penderfynodd Theresa May a derbyn gwelliannau’r adain hon o’i phlaid, ac yn sgil hyn fe ymddiswyddodd y gweinidog amddiffyn, Guto Bebb.

Gwyliau cynnar?

Bellach mae’r Llywodraeth wedi galw am wyliau cynnar i Aelodau Seneddol, ac mi fydd pleidlais yn cael ei chynnal dros hynny.

Trwy ddechrau’r cyfnod gwyliau ar ddydd Iau’r wythnos hon, yn hytrach na ddydd Mawrth nesa’, fe fyddai modd rhwystro cynllwynio’r Brexitwyr caled, rhywfaint.

Ond, byddai’r fath gam yn sicr o gythruddo’r cyhoedd – yn enwedig o ystyried bod Brexit yn prysur agosáu.