Mae Dominic Raab wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd Brexit, a hynny ar ôl i David Davis ymddiswyddo o’r swydd yn hwyr neithiwr (nos Sul, Gorffenbaf 8).

Roedd Dominic Raab, a oedd yn Weinidog Tai a Chynllunio, yn aelod blaenllaw o’r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y refferendwm yn 2016.

Fe fydd Aelod Seneddol Esher & Walton, 44 oed, yn ymuno â’r Cabinet am y tro cyntaf wrth ddechrau yn y swydd.

Mae’r cyn-gyfreithwr wedi bod yn Aelod Seneddol ers 2010, ac yn aelod o’r Llywodraeth ers 2015.

Fe ddechreuodd weithio yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, cyn symud i’r  Adran Gymunedau ddiwedd mis Mai y llynedd.

Ymddiswyddiad David Davis

Fe ymddiswyddodd David Davis o’r llywodraeth ychydig ddyddiau ar ôl i Gabinet Theresa May gytuno ar gynllun a fyddai’n gweld y Deyrnas Unedig yn glynu’n agos wrth Frwsel yn dilyn Brexit.

Yn ei lythyr at y Prif Weinidog yn cyflwyno ei ymddiswyddiad, fe ddywedodd David Davis nad oedd yn cytuno â pholisi presennol y llywodraeth ynglŷn â Brexit.

Mae hefyd wedi dweud ers hynny bod y llywodraeth yn “rhoi gormod i ffwrdd, yn rhy rwydd” yn y trafodaethau â Brwsel, ond bod Theresa May yn “Brif Weinidog da”.

Mae dirprwy David Davis yn yr adran, Steve Baker, hefyd wedi ymddiswyddo.

Ymateb Carwyn Jones

“Mae ymddiswyddiad David Davis yn dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn anhrefn lwyr dros Brexit,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mewn neges ar Twitter.

“Mae angen cymryd camau brys i ddatrys yr anhrefn hwn. Mae angen sicrwydd ar fusnesau ac mae angen arweiniad a chyfeiriad ar y wlad.”