Mae dynes 44 oed a gafodd ei heintio gan y sylweddol nerfol Novichok, wedi marw yn yr ysbyty.

Dywed Scotland Yard eu bod nhw wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i Dawn Sturgess farw nos Sul.

Mae ei phartner Charlie Rowley, 45, yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol ar ol i’w cwpl gael eu taro’n wael yn Amesbury, Wiltshire ddydd Sadwrn diwethaf.

Dyma’r ail ymchwiliad yn ymwneud a’r sylwedd nerfol eleni, yn dilyn achos y cyn-ysbïwr Rwsiaidd a’i ferch, Sergei a Yulia Skripal, a gafodd eu heintio ym mis Mawrth. Mae’r ddau bellach wedi gwella.

Mae profion wedi dangos bod Dawn Sturgess a Charlie Rowley wedi dod i gysylltiad â Novichok ar ol cyffwrdd eitem oedd wedi’i heintio gyda’r sylwedd.

Dywedodd Comisiynydd cynorthwyol Heddlu’r Met Neil Basu bod marwolaeth y fam i dri o blant yn “sioc ac yn newyddion trasig” gan ddweud bod eu meddyliau gyda theulu’r cwpl.