Bydd Theresa May yn cwrdd â’i chabinet yn ddiweddarach er mwyn trafod y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.

Wrth gyfarfod yn Chequers, tŷ gwledig y Prif Weinidog, bydd gweinidogion yn ystyried cynlluniau am y berthynas yma – ac mae disgwyl rhywfaint o densiwn.

Mae gwrthryfelwyr ymhlith rhengoedd y Ceidwadwyr wedi galw ar Theresa May i sicrhau Brexit llwyr – hynny yw, i dynnu allan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau.

Ond wrth i densiynau ddwysáu ar ffin Iwerddon mae’n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog gyfaddawdu.

Gall hynny olygu y bydd y Deyrnas Unedig yn dilyn rheolau tebyg iawn i Frwsel o ran amaeth a bwyd, a thariffiau yn dilyn Brexit – sefyllfa a fyddai gwneud masnachu â gweddill y byd yn anoddach.

“Buddiannau Brexit”

Cyn dechrau’r cyfarfod, mae Theresa May, wedi dweud bod “cyfle a chyfrifoldeb” gan ei chabinet i ddod i gytundeb, ac i lunio cynllun sy’n cynnig “buddiannau Brexit”.

“Rydym eisiau cytundeb sy’n ein galluogi i … gymryd rheolaeth tros ein ffiniau, cyfreithiau ac arian; daro bargeinion masnach â gwledydd megis America, Awstralia a Seland Newydd” meddai.

“Ymddiswyddo”

Dylai gweinidogion Cabinet sydd ddim yn derbyn y telerau sy’n cael eu cytuno yn Chequers ystyried ymddiswyddo, meddai’r cyn-Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan.

Mewn cyfweliad ar raglen Today ar BBC Radio 4 dywedodd yr AS sydd o blaid aros yn yr UE: “Dylai pawb gael yr hawl i leisio eu barn ond pan maen nhw wedi cytuno ar rywbeth, os ydy rhywun yn dweud wedyn ‘alla’i ddim byw gyda hyn, nid dyma be dw i eisiau’, yna dw i’n credu y dylen nhw ystyried eu sefyllfa.”