chyfarfod cabinet pwysig yn prysur agosáu, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn wynebu pwysau cynyddol o bob ochr tros gyfeiriad Brexit.

Mi fydd Theresa May yn cyfarfod â’i gweinidogion yn Chequers – ei thŷ gwledig – ddydd Gwener (Gorffennaf 6), ac yno byddan nhw’n ystyried “trydydd opsiwn” i ddatrys problem ffin Iwerddon.

Dan y “trydydd opsiwn yma” yma byddai technoleg yn cael ei ddefnyddio i hwyluso llif masnach, rhwng Gogledd Iwerddon a’r weriniaeth.

Ond, mae adroddiadau’n awgrymu nad yw Brwsel yn agored i’r trefniant.

Yn ogystal, mae Theresa May yn wynebu pwysau gan aelodau o’i phlaid ei hun i beidio ildio tir, trwy gytuno i reolau masnach yr Undeb Ewropeaidd  yn sgil Brexit.

Ac mae’n ddigon posib y byddai rhai Torïaid yn gwrthryfela petasai hi’n gwneud hynny.

Yn dilyn cyfarfod y cabinet mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi papur gwyn yn amlinellu eu cynlluniau mewn manylder.