Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi awgrymu y byddai ei blaid yn cefnu ar gynlluniau i ehangu maes awyr Heathrow, petasen nhw’n dod i rym.

“Dyw [meysydd awyr ] Luton a Stanstead ddim yn cael eu defnyddio digon, ac mae angen, dw i’n meddwl, annog mwy o ddefnydd o Birmingham a meysydd awyr eraill,” meddai.

“Ac mae Manceinion hefyd yn datblygu a’n troi’n ganolbwynt. Dyw pawb ddim eisiau hedfan i Lundain er mwyn hedfan mas o Lundain.”

Daw ei sylwadau ar drothwy pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin heno (Mehefin 25) tros ehangu maes awyr Heathrow  yn Llundain, a chreu trydedd lain lanio.

Mae’r mater yn un dadleuol, gyda rhai yn pryderu am effaith amgylcheddol y cynlluniau, ac eraill yn  croesawu’r prosiect a’r swyddi bydd yn cael eu creu yn ei sgil.

Anghytûn

Mae’r Blaid Lafur yn gwrthwynebu’r cynlluniau yn swyddogol, ond heno bydd gan Aelodau Seneddol bleidlais rydd ar y mater.

Eisoes, mae wedi dod i’r amlwg bod rhywfaint o anghytuno o fewn y blaid tros y mater – mae sawl Aelod Seneddol Llafur wedi cyhoeddi llythyr yn datgan eu cefnogaeth tros y cynlluniau.