Petae rhieni yn goruchwylio eu plant yn well yna mi fyddai’n ffordd effeithiol o atal tor-cyfraith ac anrhefn yn y dyfodol – dyna oedd barn pedwar o bump o bobol gafodd eu holi ar gyfer arolwg barn yn sgil y terfysgoedd dros yr haf.

Roedd naw o bob 10 o’r rhai a holwyd yn credu y dylai’r rhai a ddioddefodd lladradau a fandaliaeth yn ystod y terfysgoedd, gael y cyfle i adael i’r troseddwyr wybod faint o ofid roeddan nhw wedi ei achosi.

Ac roedd naw o bob deg hefyd yn gefnogol o’r cynllun lle mae troseddwyr yn cael eu hannog i wneud iawn am y difrod roeddan  nhw wedi ei achosi – rhan o gynllun Yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Kenneth Clarke.

Cyfle i gyflwyno newidiadau

Cafodd yr arolwg barn ei gomisiynu gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio’r Carchardai a holwyd mil o bobl. Dim ond dau o bob tri (65%) oedd yn credu y byddai dedfryd o garchar yn helpu i atal rhagor o dor-cyfraith ac anrhefn, gydag 84% yn credu y byddai gwell goruchwyliaeth o bobl ifainc gan rieni yn effeithiol.

Dywedodd Juliet Lyon, cyfarwyddwraig yr Ymddiriedolaeth Diwygio’r Carchardai, “Gyda mesur cyfiawnder gerbron y Senedd, mae na le i wneud newdiadau sylweddol a all newid y ffordd rydan ni’n ymateb i dor-cyfraith ac anrhefn, ac a fyddai’n lleihau’r achosion o ail-droseddu.”