Mae llanc 15 oed wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn dilyn ffrwgwd mewn parti pen-blwydd yn nwyrain Llundain.

Roedd hyd at 100 o bobol ifanc yn y parti yn Romford nos Sadwrn, ac fe gafodd yr heddlu eu galw wrth i’r parti ddirwyn i ben.

Cafwyd hyd i’r llanc ag anafiadau, ac fe fu farw yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrrwr bws anafiadau i’w ben yn ystod y digwyddiad.

Mae tri o lanciau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.