Mae Theresa May o dan bwysau ychwanegol o fewn y Cabinet ar ôl i Boris Johnson rybuddio y gallai Brexit droi’n llanast.

Mewn sylwadau a wnaeth mewn cinio preifat, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor bod yna risg na fydd cytundeb Brexit “yr un ry’n ni eisiau” ac mae wedi galw am fod yn gadarn yn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod cyfarfod o’r grŵp ymgyrchu Conservative Way Forward nos Fercher, dywedodd Boris Johnson bod y Trysorlys “wrth galon” yr ymgyrch dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Er iddo rybuddio y gallai’r trafodaethau fod yn llanast, dywedodd “dw i ddim eisiau i neb fynd i banig… fe fydd popeth yn iawn yn y diwedd.”

Mae ei sylwadau wedi cael eu recordio a’u rhoi yn nwylo BuzzFeed News.

Fe fydd ei sylwadau yn rhoi pwysau ychwanegol ar y Prif Weinidog o ran Brexit wrth iddi hi fynd i uwch-gynhadledd yr G7 yng Nghanada.