Mae golygydd The Daily Mail wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’r neilltu ar ddiwedd mis Tachwedd, yn dilyn 26 blwyddyn wrth y llyw.

Bydd Paul Dacre yn ildio’r awenau cyn ei ben blwydd yn 70, ac yn dod yn Gadeirydd a’n Brif Olygydd Associated Newspapers – perchennog y papur bu’n ei gyflogi.

“Dw i am sicrhau bod ein cwmni yn aros ar flaen y gad o fewn diwydiant sy’n newid o hyd,” meddai am ei rôl newydd, mewn llythyr i staff.

Mae’r newyddiadurwr hefyd wedi ymrwymo i barhau â’u “frwydr” yn erbyn rheoleiddio’r wasg, ac o blaid rhyddid y wasg.

Mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth y Daily Mail, yr Arglwydd Jonathan Rothermere, wedi canmol Paul Dacre, gan ddweud mai ef yw “golygydd Fleet Street gorau ei genhedlaeth”.