Cynyddodd prisiau petrol gan chwe cheiniog y litr, rhwng mis Ebrill a Mai – y cynnydd misol mwyaf mewn deunaw mlynedd.

Fe fu’n rhaid i fodurwyr dalu 129.41c am litr o betrol di-blwm fis diwetha’, yn ôl ffigyrau cymdeithas foduro’r RAC. A bu’n rhaid talu 132.39c am litr o ddiesel dros yr un cyfnod – cynnydd o 6c o gymharu ag Ebrill.

Mae prisiau petrol a diesel, wedi bod yn cynyddu bob dydd ers Ebrill 22.

“Roedd mis Mai yn fis uffernol i fodurwyr,” meddai Simon Williams, llefarydd yr RAC ar danwydd.

“I lawer o bobol, does ganddyn nhw ddim dewis. Rhaid defnyddio’r car ar gyfer y rhan fwyaf o’u siwrneiau. Felly, maen anodd osgoi effeithiau’r prisiau cynyddol.”