Mae dull anarferol o drin canser y pancreas yn medru helpu cleifion i fyw yn hirach, yn ôl ymchwil newydd.

O’r holl fathau o ganser, dim ond pedwar math sydd yn lladd mwy o bobol na chanser y pancreas, a dim ond 21% o gleifion yng Nghymru a Lloegr sy’n byw dros flwyddyn wedi diagnosis.

Ond, mae rhoi cemotherapi a dos o ymbelydredd i gleifion cyn llawdriniaeth, yn medru ymestyn bywydau cryn dipyn, yn ôl yr astudiaeth.

Roedd 42% o bobol wnaeth dderbyn therapi cemo-ymbelydrol, o hyd yn fyw dwy flynedd wedi’r driniaeth. 30% oedd y canran, ymhlith pobol wnaeth dderbyn triniaeth gonfensiynol.

Mae rhai cleifion o’r astudiaeth o hyd yn fyw, pedair blynedd wedi’u triniaeth.

“Cryfhau’r ddadl”

“Nid dyma’r therapi sy’n cael ei ddarparu fel rheol, ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Dr David Chang, gwyddonydd o un o raglenni’r elusen Ymchwil Canser DU.

“Ond, mae mwyfwy o ganolfannau yn ei fabwysiadu, ac mae canlyniadau’r treial yma yn sicr yn cryfhau’r ddadl o’i blaid.”