Roedd cyngor y Gwasanaeth Tân i breswylwyr Tŵr Grenfell i “aros yn eu fflatiau”, wedi methu o fewn hanner awr ar ol i’r   tân ddechrau, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl yr adroddiad gan Dr Barbara Lane, roedd y Gwasanaeth Tân wedi “methu” â chadw at ei mesurau diogelwch ar gyfer adeilad o’r fath toc cyn 1:30yb ar Fehefin 14, a hynny wrth i’r tân ymledu’n gyflym trwy’r bloc o fflatiau.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud nad oedd y rheiny a oedd yn rhan o waith adnewyddu’r tŵr yn 2016 wedi ystyried sut fyddai tân yn effeithio’r cladin.

Roedd profion wedi dangos bod y cladin wedi methu â chyrraedd safonau diogelwch tân ar gyfer adeilad o’i maint, a bod y ffenestri hefyd wedi chwarae rhan yn y modd yr oedd y tân yn ymledu.

Pum adroddiad

Mae adroddiad Dr Barbara Lane yn un o bum adroddiad sy’n rhan o’r ymchwiliad i achos y tân yn Nhŵr Grenfell ar Fehefin 14 y llynedd.

Bu farw 72 o bobol yn ystod y digwyddiad, gydag un, sef Maria Del Pilar Butron, 74 oed, yn marw o’i hanafiadau yn yr ysbyty fis Ionawr eleni.

Mae ymchwiliad cyhoeddus i’r tân eisoes wedi dechrau fis diwethaf, ac mae disgwyl iddo barhau am ddeunaw mis.

Yn dilyn saith diwrnod lle cafodd teuluoedd y dioddefwyr gyfle i dalu teyrnged i’r rhai fu farw, mae’r ymchwiliad cyhoeddus bellach wedi troi at yr adroddiadau i gychwyn y tân.