Mae heddlu yn Lloegr wedi arestio llanc ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd brawychol.

Fe gafodd y dyn, 19, ei arestio yn Bishop’s Stortford, Swydd Hertford am 7yh nos Fercher (Mai 23).

Yn ôl Scotland Yard, mae hyn yn gysylltiedig ag arestiad dyn 18 oed yng ngogledd Llundain ddydd Llun (Mai 21).

Bellach, mae’r ddau lanc yn y ddalfa ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd brawychol, ac mae heddlu’n cynnal chwiliadau o adeilad yn Bishop’s Stortford.

Cafodd dynes 20 oed ei harestio yn ne Llundain fore ddydd Mercher, yn gysylltiedig â’r achos.

Mae hi yn y ddalfa ar amheuaeth o beidio â datgelu gwybodaeth am weithredoedd brawychol.