Mi fydd £109m o arian y trethdalwr yn cael ei arbed wrth i wledydd Prydain beidio â chynnal etholiadau ar gyfer Senedd yr Undeb Ewropeaidd y flwyddyn nesa’, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Prydain.

Yn ôl Chloe Smith, Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, fyddai hi ddim yn “ddefnydd doeth” o arian cyhoeddus i baratoi ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai 2019, gan na fydd gwledydd Prydain bellach yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.

Dim etholiadau

 “Nid yw’r Llywodraeth yn bwriadu gosod dyddiad y pôl ar gyfer yr etholiadau seneddol Ewropeaidd yn 2019,” meddai’r gweinidog mewn llythyr yn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Seneddol Llafur, Virendra Sharma.

“Nid ydyn ni hefyd yn bwriadu ymgymryd â’r trefniadau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng y Deyrnas Unedig a’r aelodau eraill ynglŷn â dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (gan gynnwys dinasyddion y Deyrnas Unedig) sy’n byw mewn gwlad arall.”

Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29, 2019, pan fydd pob un o’r 73 Aelod Seneddol Ewropeaidd yn colli eu hawl i eistedd yn y Senedd ym Mrwsel.