Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn gwadu ei bod wedi torri ei gair ynglŷn â gadael yr Undeb Tollau yn dilyn Brexit.

Daw hyn ar ôl i erthygl ym mhapur newydd The Telegraph honni ei bod yn bwriadu cadw’r Deyrnas Unedig yn aelod o’r Undeb Tollau ar ôl 2021.

“Fe fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Tollau,” meddai heddiw. “Rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Wrth gwrs bod rhaid inni drafod y trefniadau ar gyfer masnachu â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, a dw i wedi cyflwyno tri nod ar gyfer hynny.

“Mae angen inni gael ein polisi masnachu annibynnol ein hunain. Rydyn ni eisiau ffin ddi-rwystr rhwng y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd fel y gall masnach barhau; ac rydyn ni eisiau sicrhau na fydd yna ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon.”

Uwchgynhadledd yn Bwlgaria

Fe wnaeth y Prif Weinidog y sylwadau hyn wrth iddi gyrraedd uwchgynhadledd yn ninas Sofia, Bwlgaria, lle bydd yn trafod diogelwch Ewrop yn sgil Brexit gydag 27 o arweinwyr eraill Ewrop.

Yn dilyn hyn, fe fydd yn teithio i Skopje yng Ngweriniaeth Macedonia i gyfarfod â Phrif Weinidog y wlad honno, Zoran Zaev.

Dyma fydd y tro cyntaf i Brif Weindiog Prydain ymweld â wlad ers i Tony Blair fynd yno yn 1999, a hynny yn ystod rhyfel y gwledydd Balcan.